Croeso

Amdanom ni

Ni yw Capita, cwmni annibynnol sy’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gynnal asesiadau Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ledled Cymru a Lloegr.

Ein rôl ni yw deall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd hirdymor yn effeithio ar eich bywyd bob dydd er mwyn helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau i asesu eich cais am PIP yn deg ac yn gywir. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar yr adroddiad asesu, eich ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi’i darparu i wneud penderfyniad ar eich cais am PIP.

Rydym bob amser yn bwriadu cynnal asesiad proffesiynol, gan ei gwneud yn glir yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a'r hyn sydd angen i chi ei wneud yn gyfnewid. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio a byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn sicrhau eich bod chi'n teimlo'n gyfforddus.

Pethau allweddol i'w cofio:

  1. Nid yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol o Capita sy'n eich asesu yn penderfynu a fyddwch yn cael PIP. Gwneir hyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gan ddefnyddio eich adroddiad o’r asesiad ac unrhyw dystiolaeth arall a ddarparwyd gennych.
  2. Nid yw asesiadau PIP yn feddygol. Ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud diagnosis o'ch cyflwr nac yn argymell triniaeth. Mae'n asesiad gweithredol i ddeall sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
  3. Mae PIP yn fudd-dal nad yw'n dibynnu ar brawf modd, sy'n golygu y gallwch wneud cais p'un a ydych mewn gwaith neu'n ddi-waith.
  4. Os bydd angen i chi gael asesiad, bydd gyda gweithiwr iechyd proffesiynol cymwysedig a fydd yn eich trin â pharch.
  5. Rydym yn gwybod y gall hyn fod yn broses straenus i rai ac rydym yn eich annog i ddod â rhywun gyda chi i'r asesiad.
  6. Mae asesiadau fel arfer yn cymryd tua awr. Ond, os oes angen i chi stopio ar unrhyw adeg, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd.
  7. Os yw eich apwyntiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, gallwch ofyn i'ch asesiad gael ei recordio.
  8. Mae llawer o sefydliadau a all eich cefnogi gyda'ch cais am PIP. Cliciwch yma i ddod o hyd i sefydliad cynghori annibynnol rhad ac am ddim yn eich ardal.
  9. Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gallwch ofyn iddynt ailedrych ar eich cais. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

    
Rydym ni yma i'ch cynorthwyo chi trwy'r broses PIP. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. 

Ynglŷn â PIP
Dysgu rhagor
Proses asesu
Dsygu rhagor
Cwestiynau Cyffredin
Dysgu rhagor

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi