Beth yw PIP?
Mae Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn fudd-dal nad yw’n dibynnu ar brawf modd ar gyfer pobl rhwng 16 ac oedran pensiwn y wladwriaeth sydd â chyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, sy’n golygu eu bod yn cael anawsterau gyda thasgau bob dydd penodol neu symud o gwmpas.
Mae PIP yn helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol y gall pobl anabl eu hwynebu o ddydd i ddydd, i’w helpu i fyw bywydau llawn, gweithgar ac annibynnol. Mae dwy ran i PIP:
- elfen bywyd bob dydd os oes angen help arnoch gyda thasgau bob dydd
- elfen symudedd os oes angen help arnoch i symud o gwmpas
Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael asesiad. Gellir gwneud hyn wyneb yn wyneb yn un o'n canolfannau asesu, dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd gweddill yr asesiadau’n cael eu cwblhau gan ddefnyddio’r wybodaeth yn eich cais ac unrhyw wybodaeth ategol rydych wedi’i hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae nifer o fudiadau sydd yn gallu eich helpu a'ch cefnogi gyda'ch cais PIP. Cliciwch yma i ddarganfod mudiad cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, yn eich ardal.
Nid yw asesiadau PIP yn feddygol, ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud diagnosis o’ch cyflwr nac yn argymell triniaeth. Mae'n asesiad gweithredol i ddeall sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Cychwyn arni
Os ydych yn penderfynu bod PIP yn addas ar eich cyfer, y cam cyntaf yw cysylltu gyda'r DWP. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar fotwm 'Dechrau'ch cais' isod neu ffoniwch y llinell ceisiadau PIP newydd ar 0800 917 2222.
Anfonir ffurflen atoch yn y post o'r enw 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi', ynghyd â llyfryn gwybodaeth i'ch helpu i'w chwblhau. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol o fewn mis. Gall gwybodaeth ategol helpu ein gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Gall gwybodaeth ategol gynnwys:
- Rhestrau presgripsiynau rheolaidd
- Dyddiadur neu lythyr gofalwr
- Adroddiadau diweddar neu gynlluniau triniaeth gan:
- Meddygon teulu neu feddygon ymgynghorol
- Nyrsys ardal
- Therapyddion galwedigaethol
- Ffisiotherapyddion
- Gweithwyr cymdeithasol
- Timau cymorth anabledd dysgu
- Aelodau o'r teulu sy'n darparu cymorth neu ofal
Gwyliwch y fideo byr yma i ddysgu mwy am wybodaeth gefnogol.
Asesiadau
Bydd un o'n gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys yn eich asesu. Maent i gyd yn nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol neu barafeddygon ac maent i gyd wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol.
Yn ystod yr asesiad, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi am sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi a sut rydych chi'n rheoli gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Cofiwch, mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yno i'ch helpu a’ch cefnogi. Nid ydynt yn bwriadu eich dal ar eich cam, felly peidiwch â phoeni am gael pob gair yn iawn a pheidiwch â phoeni os ydych chi'n cynhyrfu.