Os nad ydych wedi gallu dod o hyd i'r ateb i'ch cwestiynau yn ein Cwestiynau Cyffredin, yna cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r sianeli isod.
Ar-lein
E-bost
Ffôn
Post
Gwasanaeth trosglwyddo fideo
Gwneud cwyn
Ar-lein
Cysylltwch â ni yn gyflym ac yn hawdd trwy ein ffurflen ymholiad ar-lein.
Cofiwch beidio â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, megis eich dyddiad geni neu rif yswiriant gwladol.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i gadarnhau eich cais.
Ffôn
Gallwch ein ffonio rhwng 8am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall rhywun arall alw ar eich rhan, ond bydd angen i chi fod gyda nhw pan fyddant yn galw.
- 0808 178 8114 (Cymru a Lloegr)
- 0808 178 8115 (Llinell Gymraeg)
Gwasanaeth trosglwyddo fideo
Os ydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, cliciwch yma i gysylltu â ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo.
Ffôn testun
Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch gysylltu â ni drwy ffôn testun ar 0289 032 9675. Sylwch nad yw ein gwasanaeth ffôn testun yn derbyn negeseuon o ffonau symudol.
Gwasanaeth cyfnewid testun
Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 0808 178 8115 (defnyddiwch gydag apiau NGT neu Relay UK).
Sut i wneud sylw neu gŵyn am ein gwasanaeth
Ni sy'n gyfrifol am y broses asesu. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb. Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus ag unrhyw ran o'n gwasanaeth asesu fel y gallwn geisio unioni'r sefyllfa. Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a lle mae angen i ni wneud pethau'n well.
Gallwch gysylltu â ni trwy unrhyw un o'r dulliau cyswllt uchod neu drwy ddefnyddio'r sianeli pwrpasol a restrir isod:
Anfonwch e-bost at complaints@capita-pip.co.uk neu gallwch ysgrifennu atom yn:
PIP Complaints, PO Box 325, Darlington, DL1 9PH