Cwestiynau cyffredin asesiadau fideo

Efallai y bydd gennych gwestiynau am y broses asesu fideo. Dyma ddetholiad o rai cwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.


    Ceisiwch ail-ymuno â'r asesiad. Os na allwch wneud hynny, neu os yw'r cysylltiad yn dal yn wael, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich ffonio a bydd yr asesiad yn cael ei gynnal dros y ffôn yn lle hynny. Os byddwch chi'n colli cysylltiad ac nad yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi, cysylltwch â ni.


      Cliciwch yma i wirio’ch dyfais cyn eich asesiad. Os cewch drafferthion yn ymuno ar ddiwrnod eich asesiad cysylltwch â ni ar unwaith.
       


        Rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol os teimlwch na allwch wneud unrhyw un o'r symudiadau. Ni ddylech wneud unrhyw beth a fydd yn achosi poen neu anghysur i chi.


          Gallwch. Os oes gennych benodai, rhaid iddo ymuno â'r asesiad. Os na allwch chi fod gyda’r unigolyn yn bersonol, gallwn eich ychwanegu i’r asesiad fideo. Rhaid i chi a'ch penodai fod yn bresennol er mwyn i'r asesiad fideo ddigwydd.

             

            Gallwch, rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod yr asesiad. Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n bersonol, gallwn ei ychwanegu i’r asesiad fideo.

            Os hoffech i'ch cydymaith gael ei ychwanegu at yr asesiad, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol ar ddechrau'ch asesiad. Byddant yn gofyn ichi am rif ffôn neu gyfeiriad e-bost eich cydymaith a byddant yn anfon dolen at eich cydymaith i ymuno â'r asesiad fideo. Mae angen i'ch cydymaith fod yn barod ar adeg eich apwyntiad.

            Mae'n ddefnyddiol os gall eich cydymaith wirio ei ddyfais cyn yr asesiad trwy glicio yma.
             


              Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal gan un o'n gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae ein holl weithwyr iechyd proffesiynol yn nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion neu barafeddygon sydd yn gwl gymwys ac wedi’u cofrestru.
               


                Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi trwy fideo o'r ystafell aros ar amser eich apwyntiad. Bydd y gweithiwr yn dweud ei enw wrthych ac yn egluro y byddant yn cynnal eich asesiad fideo.

                Os oes gennych unrhyw bryderon nad yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn un dilys, rhowch y ffôn i lawr a cysylltwch â ni.
                 


                  Bydd, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol wedi gweld eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol a anfonwyd gennych fel rhan o’ch cais.


                    Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol. Maen nhw yno i asesu sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi ac mae ganddyn nhw wybodaeth am ystod eang o gyflyrau iechyd ac anableddau.


                      Bydd, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi i ddeall a yw eich cyflwr yn newid a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.


                        Os oes gennych dystiolaeth ychwanegol nad ydych wedi'i chyflwyno eisoes, trafodwch hyn gyda'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddant yn gofyn i chi anfon hon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.


                          Ni chaniateir i chi recordio'ch asesiad fideo na’r gweithiwr iechyd proffesiynol. Nid ydym chwaith yn gallu recordio'r asesiad fideo.
                           

                          Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi