Gwybodaeth Gyffredinol

Efallai y bydd gennych gwestiynau cyffredinol am PIP. Dyma ddetholiad o rai cwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.


    Mae angen i chi gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Gallwch ddysgu rhagor yma.


      Mae’n ddefnyddiol cynnwys y wybodaeth isod:
      •    Rhestrau presgripsiynau rheolaidd
      •    Dyddiadur neu lythyr gofalwr
      •    Adroddiadau diweddar neu gynlluniau triniaeth gan:

      • Meddygon teulu neu feddygon ymgynghorol
      • Nyrsys ardal
      • Therapyddion galwedigaethol
      • Ffisiotherapyddion
      • Gweithwyr cymdeithasol
      • Timau cymorth anabledd dysgu
      • Aelodau o'r teulu sy'n darparu cymorth neu ofal
         


        Mae'n bwysig ein bod yn deall yn iawn sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael asesiad.


          Weithiau gallwn gwblhau eich asesiad gan ddefnyddio’r wybodaeth yn eich ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw wybodaeth ategol y gwnaethoch ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os gallwn wneud hyn, ni fydd angen i ni eich gwahodd am asesiad.


            Mae gennym dîm arbenigol sy'n prosesu ceisiadau salwch terfynol ac ni fydd angen i chi gael asesiad. Bydd eich cais hefyd yn cael ei drin yn gyflym, fel arfer o fewn 2 ddiwrnod. Os oes gennych DS1500, cyflwynwch hwn gyda'ch ffurflen gais.


              Os byddai'n well gennych gael eich asesu mewn ffordd wahanol, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drafod hyn gyda chi.


                Mae asesiadau fel arfer yn cymryd oddeutu awr, er weithiau gall gymryd ychydig yn hirach felly caniatewch am hynny.


                  Rydym yn eich annog i ddod â chydymaith i'ch asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth.
                   


                    Os oes angen cyfieithydd iaith neu gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain arnoch, cysylltwch â ni ar unwaith fel y gallwn drefnu hyn ar eich rhan.


                      Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad neu'r asesiad, cysylltwch â ni. Mae yna hefyd lawer o sefydliadau a all eich helpu a chefnogi ar hyd y ffordd, fel Cyngor ar Bopeth  neu elusennau sy’n delio â chyflyrau penodol.


                        Ni fyddwn byth yn eich ffonio’n annisgwyl ac yn gofyn am eich manylion banc. Os gofynnir i chi ddarparu eich manylion banc dros y ffôn a bod gennych unrhyw bryderon, rhowch y ffôn i lawr a cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. 


                          Bydd eich adroddiad asesu yn cael ei anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl ar ôl eich asesiad a gallwch ofyn am gopi ganddynt.


                            Bydd rheolwr achos yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad ar eich cais. Bydd hyn yn seiliedig ar yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.


                              Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon llythyr atoch unwaith y byddant wedi gwneud penderfyniad ar eich cais.


                                Gallwch ofyn i'ch achos gael ei ailystyried. Bydd manylion sut i wneud hyn yn eich llythyr penderfyniad gan DWP.


                                  Rydym yn gyfrifol am drefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, ffôn a fideo. Cysylltwch â ni os ydych chi'n anhapus ag unrhyw ran o'n gwasanaeth. Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a lle mae angen i ni wneud pethau'n well.

                                  Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi