Asesiad ffôn

Cyn eich asesiad
 
Dysgu rhagor
Unrhyw gwestiynau?
 
Dysgu rhagor
Yn ystod eich asesiad
Dysgu rhagor
Ar ôl eich asesiad
 
Dysgu rhagor

Cyn eich asesiad

Rhowch wybod i ni os hoffech chi...

  • Newid eich apwyntiad - mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch apwyntiad. Os na fyddwch, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Os na allwch gadw eich apwyntiad am unrhyw reswm, dywedwch wrthym ar unwaith. Dim ond unwaith y gallwch chi newid eich apwyntiad. 
  • Gofyn am gyfieithydd iaith neu gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain
  • Gofyn am apwyntiad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol o ryw benodol

 

Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad ffôn

  • Prawf ID - ni ofynnir i chi ddangos ID, ond gofynnir rhai cwestiynau diogelwch i chi.
  • Eich ffôn - os ydym yn eich ffonio ar eich ffôn symudol, gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi'i wefru'n llawn cyn yr asesiad. Ceisiwch fod mewn lle tawel, gyda signal da a dim sŵn cefndir.
  • Unrhyw dystiolaeth newydd - os oes gennych unrhyw dystiolaeth newydd o sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, trafodwch hyn gyda'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Bydd angen i chi anfon hon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.

    Os gwelwch yn dda, gyrrwch unrhyw dystiolaeth newydd i:

    Freepost RTEU-HAGT-SLBL
    Personal Independence Payment 1
    Mail Handling Site A
    Wolverhampton
    WV98 1AA

 

Pwy all ymuno â chi yn eich asesiad?

Rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod eich asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth. Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu egluro'r anawsterau a wynebwch yn gliriach. Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu ar eich rhan, mae’n rhaid iddo fod dros 18 oed.

Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n bersonol, gallwn ei ychwanegu i’r alwad ffôn. Byddwn yn eich ffonio yn gyntaf, felly rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol os hoffech i'ch cydymaith gael ei ychwanegu at yr alwad. Bydd angen i chi ddarparu eu rhif ffôn ac mae angen iddynt fod yn barod i ateb y ffôn ar adeg eich apwyntiad.

Os oes problemau, am unrhyw reswm, gyda'r signal neu'r llinell ffôn, byddwn yn ceisio eich ffonio'n ôl. 

Recordiad sain

Os hoffwch gael recordiad sain o'ch asesiad, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol ar ddechrau'r asesiad.

Cyn yr asesiad, bydd rhaid i chi gytuno i sut y bydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio. 

Os byddwch yn penderfynu na fyddwch eisiau i'ch asesiad gael ei recordio mwyach, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Bydd y recordiad yn cael ei stopio a bydd yr asesiad yn parhau fel yr arfer.

Ar ôl eich apwyntiad, byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad trwy neges destun neu e-bost, a neges destun arall gyda chyfrinair un tro.  Daw'r ddolen a'r cyfrinair i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir eu defnyddio i gael mynediad at, a lawrlwytho, eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich amddiffyn chi a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod eich apwyntiad. 

Os hoffech chi gael copi CD o’r recordiad, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddwn ni hefyd yn cadw copi o’r recordiad. 

Ar ôl eich asesiad, os ydych yn cael unrhyw drafferth cael mynediad at eich recordiad, neu os hoffech chi gopi CD, cysylltwch â ni.
 
I ganfod rhagor am recordiadau sain, ewch at ein tudalen FAQ.

Yn ôl i'r brig

Yn ystod eich asesiad

Byddwch yn barod am yr alwad...

Mae angen i chi fod yn barod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol eich ffonio ar adeg eich apwyntiad. Bydd yr alwad yn dod o rif 0808 neu rif cudd. Bydd ein gweithiwr iechyd proffesiynol yn ceisio cysylltu â chi tair gwaith dros gyfnod o 20 munud. Os na fyddwch yn ateb y ffôn, gallwn ddychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Cofiwch roi gwybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol os hoffech i'ch cydymaith gael ei ychwanegu at yr alwad.
Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn adnabod ei hun trwy ddweud ei enw wrthych a dweud ei fod yn galw o Capita PIP.

Bydd angen i’r gweithiwr iechyd proffesiynol ofyn rhai cwestiynau adnabod ichi cyn y gall eich asesiad fynd yn ei flaen Os oes gennych unrhyw bryderon nad yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn un dilys, cysylltu â ni.

Cysylltu â ni



Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol.

Mae’n bwysig cofio nad yw’r asesiad yn un feddygol, felly nid yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn bwriadu gwneud diagnosis o’ch symptomau nac argymell triniaeth. Yn lle hynny, bydd yn canolbwyntio ar sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn ichi sut yr ydych yn rheoli eich gweithgareddau dyddiol ac yn cofnodi eich atebion ar liniadur. Dyma’ch cyfle i esbonio sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.

Bydd yr asesiad yn cymryd cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'r gweithiwr iechyd proffesiynol gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arno - mae hyn fel arfer oddeutu awr.
 

Yn ôl i'r brig

Ar ôl eich asesiad

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth rydych wedi ei darparu yn ogystal ag unrhyw beth a drafodwyd gennych yn ystod eich asesiad.

Byddant yn anfon yr adroddiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant wneud penderfyniad ar eich cais.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais a'r holl wybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.

Ar ôl iddynt wneud eu penderfyniad, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a allwch chi dderbyn PIP. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf os na chytunwch â'r penderfyniad.

Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr penderfyniad, os hoffech gopi o'r adroddiad asesu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu'r penderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493), rydym ar agor rhwng 9am a 5pm.

Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Relay UK a’r Video Relay Service i gysylltu â ni. 

I ddysgu rhagor, gwyliwch y fideo byr hwn.

Pethau allweddol i wybod am eich penderfyniad PIP

Beth i'w ddisgwyl yn ystod eich asesiad dros y ffôn

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.