Cwestiynau cyffredin asesu ffôn

Efallai y bydd gennych gwestiynau am y Broses Asesu. Dyma ddetholiad o rai cwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.


    Os ydych wedi darparu rhif ffôn symudol, byddwch yn cael eich ffonio ar hwnnw. Os nad ydych wedi darparu rhif ffôn symudol, byddwn yn eich ffonio ar y rhif ffôn sefydlog a ddarparwyd gennych.

    Bydd y rhif y byddwn yn ffonio yn cael ei gynnwys yn eich llythyr apwyntiad.

    Bydd yr alwad yn dod o rif 0808 neu rif cudd.


      Bydd ein gweithiwr iechyd proffesiynol yn ceisio cysylltu â chi tair gwaith dros gyfnod o 20 munud. Os na fyddwch yn ateb, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r DWP. 

      Os nad yw'r signal ffôn yn dda iawn, byddwn yn gofyn i chi am rif cyswllt arall. Os nad oes rhif arall ar gael, bydd angen i'r aseswr aildrefnu'r apwyntiad ac efallai y byddwch yn cael math gwahanol o asesiad.
       


        Gallwch, rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod yr asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth. Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu egluro'r anawsterau a wynebwch yn gliriach. Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n bersonol, gallwn ei ychwanegu i’r alwad ffôn.

        Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu ar eich rhan, mae’n rhaid iddo fod dros 18 oed.


          Gofynnir cwestiynau diogelwch i chi dros y ffôn cyn i'r asesiad ddechrau.


            Os ydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, bydd eich asesiad ffôn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac mae'r cyfieithwyr yn gwbl gymwys ac wedi'u cofrestru.

            I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd ei angen arnoch a sut i ymuno â'ch asesiad, cliciwch yma.
             


              Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal gan un o'n gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae ein holl weithwyr iechyd proffesiynol yn nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion neu barafeddygon sydd yn gwl gymwys ac wedi’u cofrestru.
               


                Os oes gennych unrhyw bryderon nad yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn un dilys, rhowch y ffôn i lawr a cysylltwch â ni.
                 


                  Bydd, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol wedi gweld eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol a anfonwyd gennych fel rhan o’ch cais.


                    Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol. Maen nhw yno i asesu sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi ac mae ganddyn nhw wybodaeth am ystod eang o gyflyrau iechyd ac anableddau.


                      Bydd, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi i ddeall a yw eich cyflwr yn newid a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.


                        Os oes gennych dystiolaeth ychwanegol nad ydych wedi'i chyflwyno eisoes, trafodwch hyn gyda'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddant yn gofyn i chi anfon hon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.


                          Mae’n bosib gwneud recordiad sain o’ch asesiad. Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â ni mor fuan â phosib cyn eich asesiad fel y gallem drefnu hyn i chi.


                            Ar ôl eich apwyntiad, byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad trwy neges destun neu e-bost, a neges destun arall gyda chyfrinair un tro.  Daw'r ddolen a'r cyfrinair i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir eu defnyddio i gael mynediad at, a lawrlwytho, eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich amddiffyn chi a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod eich apwyntiad. 

                            Os hoffech chi gael copi CD o’r recordiad, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddwn ni hefyd yn cadw copi o’r recordiad. 

                            Ar ôl eich asesiad, os ydych yn cael unrhyw drafferth cael mynediad at eich recordiad, neu os hoffech chi gopi CD, cysylltwch â ni.
                             


                              Os hoffech chi gael dolen a chyfrinair newydd i gael mynediad at eich recordiad sain, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd ofyn am gopi CD o'r recordiad.


                                Ni fydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio gan y DWP i benderfynu ar eich cais am fudd-daliadau. Fodd bynnag, efallai y bydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddatrys anghydfod a / neu mewn unrhyw achosion apêl.


                                  Bydd Capita yn storio copi o'r recordiad yn ddiogel ac yn ei gadw am gyfnod o 24 mis. Ar ôl hyn, bydd yn cael ei ddinistrio.

                                  Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi