Eich asesiad wyneb yn wyneb

Cyn eich asesiad
 
Dysgu rhagor
Ar ôl eich asesiad
 
Dysgu rhagor
Yn ystod eich asesiad
Dysgu rhagor

Cyn eich asesiad

Rhowch wybod i ni os hoffech chi...

  • Newid eich apwyntiad - mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch apwyntiad. Os na fyddwch, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Os na allwch gadw eich apwyntiad am unrhyw reswm, dywedwch wrthym ar unwaith. Dim ond unwaith y gallwch chi newid eich apwyntiad. 
  • Gofyn am gyfieithydd iaith neu gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain
  • Gofyn am apwyntiad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol o ryw benodol

 

Beth sydd angen i chi ddod ag ef i'ch asesiad

ID

Bydd angen i chi ddarparu dau fath o ID:

  • un eitem o restr A ac un o restr B, neu
  • dwy eitem o restr B (os nad oes gennych unrhyw un o'r eitemau yn rhestr A)


Os nad oes gennych brawf adnabod derbyniol, efallai na fyddwn yn gallu cynnal eich asesiad. Cliciwch ar 'A' neu 'B' isod i weld prawf adnabod derbyniol.

     

    • Pasbort y Deyrnas Unedig neu Dramor
    • Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Tramor
    • Trwydded yrru cerdyn llun y Deyrnas Unedig
    • Pasbort
    • Cerdyn Hunaniaeth Etholiadol Gogledd Iwerddon
    • Trwydded Breswylio Fiometrig a gyhoeddwyd gan UKBA
    • Pas Teithio'r Deyrnas Unedig gyda llun


     

       

      • Tystysgrif Geni, y Deyrnas Unedig a Thramor
      • Tystysgrif Priodas, y Deyrnas Unedig a Thramor
      • Archddyfarniad Absoliwt, y Deyrnas Unedig a Thramor
      • Trwydded Yrru'r Deyrnas Unedig (hen fath, heb lun)
      • Tystysgrif Brodori / dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig
      • Dogfen cytundeb rhent Cyngor / Cymdeithas Tai'r Deyrnas Unedig
      • Dogfen cytundeb tenantiaeth Cyngor / Cymdeithas Dai'r Deyrnas Unedig
      • Bil y Dreth Gyngor y Deyrnas Unedig
      • Bil Cyfleustodau'r Deyrnas Unedig
      • Tystiolaeth y Deyrnas Unedig o hawl i fudd-dal y Wladwriaeth neu awdurdod lleol

       

      Meddyginiaeth ac offer

      Dewch ag unrhyw feddyginiaeth neu offer arbenigol y gallai fod ei angen arnoch yn ystod eich asesiad. Mae gennym ddolen glyw, os oes angen un arnoch.

      Tystiolaeth newydd

      Os oes gennych dystiolaeth newydd am sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, nad ydych eisoes wedi ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau, dewch â hon i'ch asesiad. Bydd angen i chi yrru copi i’r DWP ar ôl eich asesiad.

      Os gwelwch yn dda, gyrrwch unrhyw dystiolaeth newydd i:

      Freepost RTEU-HAGT-SLBL
      Personal Independence Payment 1
      Mail Handling Site A
      Wolverhampton
      WV98 1AA
       

      Pwy all ymuno â chi yn eich asesiad?

      Rydym yn eich annog i ddod a rhywun gyda chi i'ch asesiad. Gallai fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth. 

      Ni ddylai eich cydymaith siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu egluro'r anawsterau a wynebwch yn gliriach. Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu ar eich rhan, mae’n rhaid iddo fod dros 18 oed.

      Peidiwch â dod â phlant gyda chi. Os na allwch wneud trefniadau gofal plant, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drafod y ffordd orau o gynnal eich asesiad.

      Recordiad sain

      Os hoffwch gael recordiad sain o'ch asesiad, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol ar ddechrau'r asesiad.

      Cyn cychwyn ar yr asesiad, bydd gofyn i chi lofnodi cytuneb sy'n egluro sut y gellir defnyddio'r recordiad.
       
      Os byddwch yn penderfynu na fyddwch eisiau i'ch asesiad gael ei recordio mwyach, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Bydd y recordiad yn cael ei stopio a bydd yr asesiad yn parhau fel yr arfer.

      Ar ôl eich apwyntiad, byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad trwy neges destun neu e-bost, a neges destun arall gyda chyfrinair un tro. Daw'r ddolen a'r cyfrinair i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir eu defnyddio i gael mynediad at, a lawrlwytho, eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich amddiffyn chi a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod eich apwyntiad.
       
      Os hoffech chi gael copi CD o’r recordiad, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddwn ni hefyd yn cadw copi o’r recordiad. 

      Ar ôl eich asesiad, os ydych yn cael unrhyw drafferth cael mynediad at eich recordiad, neu os hoffech chi gopi CD, cysylltwch â ni

      I ganfod rhagor am recordiadau sain, ewch at ein tudalen FAQ.

      Yn ôl i'r brig

      Y ganolfan asesu

      Rhowch wybod yn y dderbynfa eich bod wedi cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad. 

      Ein nod yw cychwyn pob apwyntiad yn brydlon ond gall fod oedi os bydd apwyntiad rhywun arall yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Gallwch gymryd sedd yn ein hystafell aros cyn eich asesiad. 

      Bydd y ganolfan asesu yn hygyrch i gadeiriau olwyn a bydd toiledau i’r anabl ar gael – ni allwn eich helpu i ddefnyddio’r rhain.

      Yn ôl i'r brig

      Yn ystod eich asesiad

      Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol. Mae’n bwysig cofio nad yw’r asesiad yn un feddygol, felly nid yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn bwriadu gwneud diagnosis o’ch symptomau nac argymell triniaeth. Yn lle hynny, bydd yn canolbwyntio ar sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

      Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn ichi sut yr ydych yn rheoli eich gweithgareddau dyddiol ac yn cofnodi eich atebion ar liniadur. Dyma’ch cyfle i esbonio sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.

      Bydd yr asesiad yn cymryd cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'r gweithiwr iechyd proffesiynol gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arno - mae hyn fel arfer oddeutu awr.

      Fel rhan o'r asesiad, efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn i chi wneud rhai symudiadau sylfaenol. Os ydych chi'n teimlo na allwch chi wneud y symudiadau hyn heb anghysur na phoen, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Ni fydd angen i chi unioni unrhyw ddillad na chael archwiliad corfforol.

      Efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol hefyd yn gallu gweld rhai o’r anawsterau a gewch gyda thasgau penodol yn ystod yr amser y byddwch yn ei dreulio gyda’ch gilydd. Byddant yn cynnwys y sylwadau hyn yn yr adroddiad.
       

      Yn ôl i'r brig

      Ar ôl eich asesiad

      Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau.

      Bydd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth rydych wedi ei darparu yn ogystal ag unrhyw beth a drafodwyd gennych yn ystod eich asesiad.

      Byddant yn anfon yr adroddiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant wneud penderfyniad ar eich cais.

      Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais a'r holl wybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.

      Ar ôl iddynt wneud eu penderfyniad, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a allwch chi dderbyn PIP. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf os na chytunwch â'r penderfyniad.
      Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr penderfyniad, os hoffech gopi o'r adroddiad asesu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu'r penderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493), rydym ar agor rhwng 9am a 5pm.

      Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Relay UK a’r Video Relay Service i gysylltu â ni. 

      I ddysgu rhagor, gwyliwch y fideo byr hwn.

       

      Pethau allweddol i wybod am eich penderfyniad PIP

      Peidiwch ag anghofio hawlio eich costau teithio

      Byddwn yn ad-dalu eich costau teithio chi a’ch cynrychiolydd os byddwch yn teithio i’r apwyntiad ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n talu am eich milltiroedd a pharcio os byddwch yn gyrru yno.

      Bydd ffurflen hawlio wedi'i phostio atoch gyda'ch llythyr apwyntiad. Sicrhewch eich bod yn ei dychwelyd atom gyda'r holl docynnau a derbynebau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus neu barcio. Gallwch ddefnyddio'r amlen a ddarperir gyda'ch llythyr apwyntiad – nid oes angen stamp arnoch.
       

      Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.