Cwestiynau cyffredin asesiad wyneb yn wyneb

Efallai y bydd gennych gwestiynau am y broses asesu wyneb yn wyneb. Dyma ddetholiad o rai cwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.


    Na, dim ond yn ein canolfannau asesu yr ydym yn cynnal asesiadau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal mewn amgylchedd rheoledig Covid-19.


      Os oes gennych unrhyw bryderon am deithio i’r ganolfan asesu, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae hyn er mwyn i ni allu trafod pa gymorth allai fod ar gael.
       


        Er mwyn lleihau faint o amser y bydd yn rhaid i chi aros, byddem yn eich annog yn gryf i beidio â chyrraedd mwy na 10 munud cyn amser dechrau eich apwyntiad.


          Mae ein holl ganolfannau asesu yn hygyrch. Os nad yw'r ystafell asesu ar y llawr gwaelod, bydd lifft ar gael.


            Bydd, bydd toiledau i'r anabl ar gael ond ni allwn eich helpu i ddefnyddio'r rhain.


              Rydym yn eich annog i ddod a rhywun gyda chi i'ch asesiad. Gallai fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth.

              Peidiwch â dod â phlant gyda chi. Os na allwch wneud trefniadau gofal plant, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drafod y ffordd orau o gynnal eich asesiad.


                Na, ni all penodai fynychu asesiad wyneb yn wyneb heb yr hawlydd.


                  Cliciwch yma i ddarganfod pa ddulliau adnabod sydd angen i chi ddod gyda chi.


                    Byddwn yn ad-dalu eich costau teithio chi a’ch cydymaith os byddwch yn teithio i’r apwyntiad ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n talu am eich milltiroedd a pharcio os byddwch yn gyrru yno. Cwblhewch y ffurflen hawlio a chawsoch gyda'ch llythyr apwyntiad a'i dychwelyd atom gyda'r holl docynnau a derbynebau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus neu barcio. Defnyddiwch yr amlen a ddarperir gyda'ch llythyr apwyntiad – nid oes angen stamp arni.

                    Os oes angen i chi deithio i'ch asesiad mewn tacsi preifat, mae'n bwysig gwneud y cais hwn ymlaen llaw. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos ac yn unol â’r canllawiau Covid cyfredol.
                     


                      Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal gan un o'n gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae ein holl weithwyr iechyd proffesiynol yn nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion neu barafeddygon sydd yn gwl gymwys ac wedi’u cofrestru.


                        Bydd, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol wedi gweld eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol a anfonwyd gennych fel rhan o’ch cais.


                          Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol. Maen nhw yno i asesu sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi ac mae ganddyn nhw wybodaeth am ystod eang o gyflyrau iechyd ac anableddau.


                            Bydd, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi i ddeall a yw eich cyflwr yn newid a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.


                              Os oes gennych dystiolaeth ychwanegol nad ydych wedi'i chyflwyno eisoes, dewch â hyn gyda chi a dywedwch wrth y gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddant yn gofyn i chi ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.


                                Os hoffwch gael recordiad sain o'ch asesiad, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol ar ddechrau'r asesiad.


                                  Os ydych wedi gofyn i ni recordio eich asesiad, ar ôl yr apwyntiad, byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad drwy neges testun neu e-bost. Byddwch yn derbyn neges testun ar wahân gyda chyfrinair un tro. Daw'r ddolen a'r cyfrinair i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir eu defnyddio i gael mynediad at, a lawrlwytho, eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich amddiffyn chi a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod eich apwyntiad. 

                                  Os hoffech chi gael copi CD o’r recordiad, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddwn ni hefyd yn cadw copi o’r recordiad. 

                                  Ar ôl eich asesiad, os ydych yn cael unrhyw drafferth cael mynediad at eich recordiad, neu os hoffech chi gopi CD, cysylltwch â ni


                                    Os hoffech chi gael dolen a chyfrinair newydd i gael mynediad at eich recordiad sain, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd ofyn am gopi CD o'r recordiad. 


                                      Ni fydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio gan y DWP i benderfynu ar eich cais am fudd-daliadau. Fodd bynnag, efallai bydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddatrys anghydfod a / neu mewn unrhyw achosion apêl.


                                        Bydd Capita yn storio copi o'r recordiad yn ddiogel ac yn ei gadw am gyfnod o 24 mis. Ar ôl hyn, bydd yn cael ei ddinistrio.

                                        Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi