Gwasanaeth trosglwyddo fideo


Cyn eich asesiad
Dysgu rhagor
Unrhyw gwestiynau?
Dysgu rhagor
Yn ystod eich asesiad
Dysgu rhagor
Ar ôl eich asesiad
Dysgu rhagor

Cyn eich asesiad

Rhowch wybod i ni os hoffech chi...

  • Newid eich apwyntiad - mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch apwyntiad. Os na fyddwch, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Os na allwch gadw eich apwyntiad am unrhyw reswm, dywedwch wrthym ar unwaith. Dim ond unwaith y gallwch chi newid eich apwyntiad.

  • Gofyn am gyfieithydd iaith neu gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain

  • Gofyn am apwyntiad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol o ryw benodol
     

Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gwasanaeth trosglwyddo fideo

  • Prawf ID - ni ofynnir i chi ddangos ID, ond gofynnir rhai cwestiynau diogelwch i chi.

  • Eich ffôn - os ydym yn eich ffonio ar eich ffôn symudol, gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi'i wefru'n llawn cyn yr asesiad. Ceisiwch fod mewn lle tawel, gyda signal da a dim sŵn cefndir.

  • Unrhyw dystiolaeth newydd - os oes gennych unrhyw dystiolaeth newydd o sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, trafodwch hyn gyda'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Bydd angen i chi anfon hon at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad.

Os gwelwch yn dda, gyrrwch unrhyw dystiolaeth newydd i:

Freepost RTEU-HAGT-SLBL
Personal Independence Payment 1
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AA

Yn ôl i'r brig

Pwy all ymuno â chi yn eich asesiad?

Rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod eich asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth.

Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu egluro'r anawsterau a wynebwch yn gliriach.

Os bydd eich cydymaith yn cyfieithu ar eich rhan, mae’n rhaid iddo fod dros 18 oed.

Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n bersonol, gallwn ei ychwanegu i’r alwad ffôn. Byddwn yn eich ffonio yn gyntaf, felly rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol os hoffech i'ch cydymaith gael ei ychwanegu at yr alwad.

Bydd angen i chi ddarparu eu rhif ffôn ac mae angen iddynt fod yn barod i ateb y ffôn ar adeg eich apwyntiad.

Os oes problemau, am unrhyw reswm, gyda'r signal neu'r llinell ffôn, byddwn yn ceisio eich ffonio'n ôl. 

Yn ôl i'r brig

Yn ystod eich asesiad

Os oes angen cyfieithydd ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) arnoch...


Os ydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, bydd eich asesiad ffôn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac mae'r cyfieithwyr yn gwbl gymwys ac wedi'u cofrestru.
 

I ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid fideo, bydd angen:

  • Cyfrifiadur neu liniadur gyda gwe gamera, cysylltiad rhyngrwyd cyflym,
  • A Firefox/Chrome ar gyfer Windows neu Safari ar gyfer Mac arnoch,

    neu
     
  • Llechen neu ffôn clyfar (dyfeisiau iOS 8 neu uwch) neu (Android 4.4 i fyny) gyda chynllun data 3G neu 4G


Os cewch eich gwahodd am asesiad ffôn gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid fideo ond nad oes gennych yr offer angenrheidiol cysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

I ymuno â'ch asesiad, mae angen i chi:





Ar adeg eich apwyntiad, cysylltwch â SignVideo a dywedwch wrthynt eich bod yn ffonio Capita ar gyfer eich asesiad PIP.

Yn ôl i'r brig

Ar ôl eich asesiad

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth rydych wedi ei darparu yn ogystal ag unrhyw beth a drafodwyd gennych yn ystod eich asesiad.

Byddant yn anfon yr adroddiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant wneud penderfyniad ar eich cais.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais a'r holl wybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.

Ar ôl iddynt wneud eu penderfyniad, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a allwch chi dderbyn PIP. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf os na chytunwch â'r penderfyniad.

Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr penderfyniad, os hoffech gopi o'r adroddiad asesu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu'r penderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493), rydym ar agor rhwng 9am a 5pm.

Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Relay UK a’r Video Relay Service i gysylltu â ni. 

I ddysgu rhagor, gwyliwch y fideo byr hwn.

Yn ôl i'r brig

Pethau allweddol i wybod am eich penderfyniad PIP

Beth i'w ddisgwyl mewn asesiad Cyfnewid Fideo