Eich asesiad fideo

Cyn eich asesiad
 
Dysgu rhagor
Ar ôl eich asesiad

 
Dysgu rhagor
Ymuno â’r galwad fideo
Dysgu rhagor
Yn ystod eich asesiad
Dysgu rhagor

Cyn eich asesiad

Rhowch wybod i ni os hoffech chi...

  • Newid eich apwyntiad - mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch apwyntiad. Os na fyddwch, byddwn yn dychwelyd eich cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Os na allwch gadw eich apwyntiad am unrhyw reswm, dywedwch wrthym ar unwaith. Dim ond unwaith y gallwch chi newid eich apwyntiad. 
  • Gofyn am gyfieithydd iaith neu gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain
  • Gofyn am apwyntiad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol o ryw benodol


Os ydych yn chwilio am wybodaeth am y gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, dysgwch ragor yma.

Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad

  • Cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, llechen, neu ffôn symudol sydd â chamera wyneb blaen, seinyddion, a meicroffon
  • Cysylltiad rhyngrwyd da, sefydlog. Os gallwch wylio fideo ar-lein heb unrhyw broblemau, dylai eich cysylltiad rhyngrwyd fod yn addas ar gyfer asesiad fideo
  • Ardal breifat, gyda golau da lle na fydd neb yn amharu arnoch
  •  Un o'r porwyr hyn:
    o    Safari (cyfrifiadur Apple, iPad neu iPhone)
    o    Google Chrome (cyfrifiadur Windows neu lechen/ffôn clyfar Android)
    o    Microsoft Edge (cyfrifiadur Windows)


Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad fideo.

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol Samsung ar gyfer eich asesiad fideo, efallai y byddwch yn cael problem gyda'ch porwr. Os gwelwch y sgrin isod, copïwch a gludwch y ddolen i'r ystafell aros i mewn i Google Chrome. Os nad oes gennych Google Chrome eisoes, gallwch glicio yma i’w lawrlwytho. Gallech hefyd geisio defnyddio dyfais wahanol, os oes gennych un.

Os nad oes gennych chi un neu fwy o’r uchod, neu os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu na allwch chi gymryd rhan mewn asesiad fideo cysylltwch â ni ar unwaith. (Mae hyn er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau i gyflawni'ch asesiad.)


Gwirio bod eich dyfais wedi'i gosod yn gywir

Mae'n ddefnyddiol gwirio bod eich dyfais wedi'i gosod yn gywir cyn eich asesiad fideo. Cliciwch yma i wirio’ch dyfais.

Os yw'ch dyfais wedi'i gosod yn gywir, fe welwch y sgrin hon gyda’r neges 'Rydych chi'n barod i wneud galwadau'.

Os byddwn yn sylwi nad yw rhywbeth yn hollol iawn, efallai y gwelwch y sgrin hon.

Mae hyn fel arfer yn hawdd i'w drwsio, cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar sut i gael eich dyfais yn barod ar gyfer eich asesiad fideo.


Tystiolaeth newydd

Os oes gennych dystiolaeth newydd am sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, nad ydych eisoes wedi ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau, dewch â hon i'ch asesiad. Bydd angen i chi yrru copi i’r DWP ar ôl eich asesiad.

Os gwelwch yn dda, gyrrwch unrhyw dystiolaeth newydd i:

Freepost RTEU-HAGT-SLBL
Personal Independence Payment 1
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AA


Pwy all ymuno â chi yn eich asesiad?

Rydym yn eich annog i gael rhywun gyda chi yn ystod yr asesiad. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr cymorth. Ni ddylent siarad ar eich rhan, ond gallant eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu egluro'r anawsterau a wynebwch yn gliriach. Os na all eich cydymaith fod gyda chi'n bersonol, gallwn ei ychwanegu i’r alwad fideo. Rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol ar ddechrau'r asesiad.

Bydd  angen dyfais gyda chamera sy'n wynebu'r blaen, seinyddion, microffon a chyswllt rhyngrwyd ar eich cydymaith.

Yn ôl i'r brig

Gwyliwch ganllaw cam wrth gam ar brofi eich offer ar gyfer eich asesiad fideo

Sut i brofi eich offer ar gyfer asesiad fideo

Ymuno â’r asesiad fideo

Dyma ganllaw cam wrth gam ar sut i gysylltu â'r asesiad fideo a'r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld.

Cam 1

Cliciwch yma i gychwyn eich asesiad fideo. 

Cam 2

Ar ol clicio'r ddolen, efallai gwelwch y sgrin isod. Os gwelwch yn dda, darllenwch hwn a dewis 'Parhau/Continue'. Cofiwch ddewis 'Caniatau/Allow' ar y sgrin nesaf.

Cam 3

Fe welwch y sgrin isod. Dewiswch 'Mynediad i'r Man Aros/Enter Waiting Area'.

Cam 4

Darllenwch y wybodaeth ar y sgrin ac yna dewiswch 'Cam nesaf'.

Cam 5

Rhowch eich enw, rhif ffôn a dyddiad geni. Dewiswch 'Cam nesaf'.

Cam 6

Darllenwch a derbyniwch y Telerau a'r Polisiau drwy dicio'r blwch. Yna dewiswch 'Mynd i Mewn i'r Ardal Aros'.

Cam 7

Yna byddwch yn mynd i mewn i'r ardal aros.

Cam 8

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cychwyn yr asesiad fideo ar adeg eich apwyntiad a byddwch yn gallu gweld a chlywed eich gilydd.

Os ydych yn cael trafferth ymuno â'r ystafell aros, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Cam 9

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn adnabod ei hun trwy ddweud ei enw wrthych a dweud ei fod yn galw o Capita PIP.

Yna bydd angen iddynt ofyn rhai cwestiynau adnabod ichi cyn y gall eich asesiad fynd yn ei flaen.

Cam 10

Os nad yw eich cydymaith gyda chi yn bersonol ac yr hoffech iddo gael ei ychwanegu at yr alwad fideo, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Byddant yn gofyn ichi am rif ffon neu gyfeiriad e-bost eich cydymaith a bydd eich cydymaith yn derbyn dolen i ymuno a'r asesiad fideo.

Mae angen i'ch cydymaith fod yn barod ar adeg eich asesiad a bydd hefyd angen dyfais gyda chamera blaen, seinyddion, meicroffon a chysylltiad rhyngrwyd.

Unwaith y bydd eich cydymaith yn ymuno, byddwch yn gallu gweld eich hun, eich cydymaith a'r gweithiwr iechyd proffesiynol.

 

Yn ôl i'r brig

Gwyliwch ganllaw cam wrth gam ar brofi eich offer ar gyfer eich asesiad fideo

Sut i ymuno â'ch asesiad fideo

Yn ystod eich asesiad

Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau gweithredol. Mae’n bwysig cofio nad yw’r asesiad yn un feddygol, felly nid yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn bwriadu gwneud diagnosis o’ch symptomau nac argymell triniaeth. Yn lle hynny, bydd yn canolbwyntio ar sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn ichi sut yr ydych yn rheoli eich gweithgareddau dyddiol ac yn cofnodi eich atebion ar liniadur. Dyma’ch cyfle i esbonio sut mae'ch cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.

Bydd yr asesiad yn cymryd cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'r gweithiwr iechyd proffesiynol gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arno - mae hyn fel arfer oddeutu awr.

Fel rhan o'r asesiad, efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn i chi wneud rhai symudiadau sylfaenol. Os ydych chi'n teimlo na allwch chi wneud y symudiadau hyn heb anghysur na phoen, rhowch wybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Ni fydd angen i chi unioni unrhyw ddillad na chael archwiliad corfforol.

Efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol hefyd yn gallu gweld rhai o’r anawsterau a gewch gyda thasgau penodol yn ystod yr amser y byddwch yn ei dreulio gyda’ch gilydd. Byddant yn cynnwys y sylwadau hyn yn yr adroddiad.

Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gwblhau, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn dod â'r alwad fideo i ben.


Profi anawsterau yn ystod yr alwad

Os bydd y signal yn diflannu yn ystod eich galwad fideo am unrhyw reswm, neu os oes anawsterau technegol, ceisiwch ail-ymuno.

Os bydd problemau o hyd, bydd yr asesiad yn parhau dros y ffôn.

Darllenwch ragor am asesiadau ffôn yma.


Yn ôl i'r brig

Ar ôl eich asesiad

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth rydych wedi ei darparu yn ogystal ag unrhyw beth a drafodwyd gennych yn ystod eich asesiad.

Byddant yn anfon yr adroddiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant wneud penderfyniad ar eich cais.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais a'r holl wybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi’ ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.

Ar ôl iddynt wneud eu penderfyniad, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a allwch chi dderbyn PIP. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf os na chytunwch â'r penderfyniad.

Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr penderfyniad, os hoffech gopi o'r adroddiad asesu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu'r penderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493), rydym ar agor rhwng 9am a 5pm.

Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Relay UK a’r Video Relay Service i gysylltu â ni. 

I ddysgu rhagor, gwyliwch y fideo byr hwn.

Pethau allweddol i wybod am eich penderfyniad PIP

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.